Ystyriwch, Gyfeillion annwyl, gymhellion cariad a gwirionedd yn eich calonnau. Take heed, dear Friends, to the promptings of love and truth in your hearts. x

Welsh Quaker lecture series

 

In 2018 The National Eisteddfod was held in Cardiff

Our third lecture, given by Jane Harries, reflected on aspects of the legacy of peace and peace-making in Wales, as commemorations of World War I come to a close.

 

Chair:

Alun Evans, Cymdeithas y Cymod (Fellowship of Reconciliation in Wales)

poppies peace

Yn y flwyddyn honno lle cofiwn ddiwedd ‘y rhyfel i roi terfyn ar bob rhyfel’ sut medrwn gloriannu cyfraniad Cymru tuag at yr ymgais i hyrwyddo heddwch yn y ganrif a fu?  Bydd y darlithydd yn tynnu tystiolaeth o’r hanesion a gasglwyd dros y pedair blynedd diwethaf gan y prosiect ‘Cymru dros Heddwch’ ac edrych arni yn feirniadol.  Beth fedrwn ddysgu o’r dreftadaeth hon, a beth yw’r gwersi i’r genhedlaeth nesaf?

Un peth sydd yn glir: mae gan Gymru dreftadaeth heddwch fedrwn fod yn falch iawn ohoni – treftadaeth sydd yn cynnwys ffigyrau megis Henry Richards, yr ‘Apostol Heddwch’, David Davies Llandinam, George M Ll Davies, Waldo  Williams, a merched Greenham – i enwi ond ychydig.  Mae’n hanes yn frith o enghreifftiau o fudiadau a grwpiau sydd wedi croesawi ffoaduriaid a gweithio tuag at gyd-ddealltwriaeth a chydweithio rhyngwladol.  Y drafferth yw nad ydym yn ymwybodol o’r dreftadaeth honno ac yn tueddu edrych y tu allan i’n gwlad ein hun am ysbrydoliaeth.  Pam mae hynny yn digwydd, a sut medrwn hyrwyddo’n treftadaeth heddwch i’r genhedlaeth nesaf?

Er yr holl enghreifftiau ysbrydoledig, mae Cymru wedi chwarae rhan mewn dau ryfel byd a rhyfeloedd llai yn y ganrif ddiwethaf.  Rydym yn ymfalchïo am fod yn wlad groesawgar – ond a ydy hyn wastad yn wir?  Beth yw’r dylanwadau sydd yn milwrio yn erbyn heddychiaeth yn ein cymdeithas?  A oes’na gysylltiad rhwng y ffordd y mae Cymru yn cael ei llywodraethu a’r rhan rydym yn ei chwarae yn y byd?

Wedi ystyried y dreftadaeth, beth fedrwn ddweud am ein sefyllfa heddiw?  Mae rhai  agweddau o’n gymdeithas yn codi calon.  Edrychwn ar rai enghreifftiau, megis y mudiad i Gymru ddod yn genedl lloches, yn ogystal â grwpiau a mudiadau sydd yn hyrwyddo cydgefnogaeth ryngwladol a dyfodol mwy cynaliadwy.  Er hynny, roedd Cymru ymhlith ardaloedd y DU lle pleidleisiodd mwyafrif dros Brexit: beth yw arwyddocâd y bleidlais honno?  Gellir honni bod Cymru yn rhan annatod o’r ‘peiriant rhyfel’ – yn gartref i Ffair Arfau yn flynyddol, ac yn wlad lle defnyddir rhannau helaeth o’r tir a’r awyr i hyfforddi milwyr ac i brofi awyrennau di-beilot.  Mae 7 ysgol yng Nghymru bellach yn rhedeg grwpiau cadét a noddir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.  Gellir honni hefyd bod y mudiad heddwch yng Nghymru yn gymharol wan, yn bwysig iawn o ran codi consyrn a phrotestio, ond yn ei chael hi’n anodd brwydro yn erbyn y ‘norm’.  Sut medrwn gynnig gweledigaeth am ddyfodol amgen i’n bobl ifanc yng Nghymru a rhoi iddynt y sgiliau i barhau a chryfhau’n treftadaeth heddwch i’r dyfodol?

 

In this centenary year where we remember the ‘war to end all wars’ what can we say about Wales’ contribution to the search for peace in the last hundred years?  The lecturer will take a critical look at evidence from some of the stories collected over the last four years by the ‘Wales for Peace’ project.  What can we learn from this heritage, and what are the lessons for the next generation?

One thing is clear: Wales has a peace heritage we can be proud of –  a heritage that includes figures such as Henry Richards, the ‘Apostle of Peace’, David Davies Llandinam, George M Ll Davies, Waldo  Williams, and the Greenham women – to name but a few.  There are frequent examples in our history of groups and movements that have worked to welcome refugees and to promote international cooperation and understanding. The problem is that we aren’t generally aware of this heritage and tend to look outside of Wales for inspiration.  Why is this, and how can we promote our peace heritage to the next generation?

Despite many inspiring examples of peace-making, Wales has also played her part in two world wars and a number of other conflicts in the last century.  We pride ourselves on being a welcoming country – but is this always true?  What are the influences that militate against peace-making in our society?  Is there a link between the way Wales is governed and the role we are able to play in the world?

Considering our heritage, what can we say about our current situation?  Some aspects of our society give grounds for hope.  We will look at some examples, such as the movement for Wales to become a Nation of Sanctuary, as well as groups and movements that promote international solidarity and a more sustainable future.  At the same time, Wales was one of the areas of the UK where a majority voted for Brexit: what is the significance of that vote?  It can be claimed that Wales is inextricably tied into the ‘war machine’ – home to an annual Arms Fair, and a country where large areas of air and land space are used to train armed forces and to test drones.  7 schools in Wales now run cadet forces sponsored by the Ministry of Defence.  It can also be claimed that the peace movement in Wales is comparatively weak.  Although peace groups are really important in raising concerns and protesting, it’s a difficult struggle to work against the ‘norm’.  How can we offer our young people in Wales a vision of a different and better future, and help them gain the skills necessary to carry on and strengthen our peace heritage into the future?


 

2017 saw the second in a series of three lectures at

The National Eisteddfod in Anglesey

In 2017 Huw Meredydd Owen discussed:

‘Recognising the moment – What is the discipline that helps us to do so.’

Yr Eiliad, yr Awr a’r Twll yn y Tô

Mewn oes lle mae llawer yn mynnu eu bod yn Anffyddwyr, lle saif hyn o berthynas i’r ymchwil barhaus am wirioneddau ysbrydol; a yw ymchwil yr artist am y ‘gwir gynefin’ yn ei efelychu.?

Mae James Turrell, yn Grynwr ac yn artist , a’i greadigaethau yn cyfleu profiadau cryf. Bu’n cydweithio gyda Cyfarfod Crynwyr Houston, Tecsas, ar Dy Cwrdd newydd, oedd yn cynnwys elfen sydd yn eitha adnabyddus yn ei waith, sef  twll yn y tô, i amgyffred yr wybren.

Beth yw’r cydbwysedd rhwng  y fath brofiad a’r gwerthoedd arhosol mewn ffydd; y berthynas rhwng y “sylweddoliad” a’r “creadigol”; “Gwyddom gan ddyfod yr Eiliad ein geni i’r Awr.”.

The Moment, the Hour and the Hole in the Roof

In an age where many reject traditional concepts of religious belief where do we continue our search for spiritual truths?  Is there continuing merit in exploring the modern relevance of the artist’s search for ‘artistic truth’?

The artist James Turrell is a Quaker and an artist and his works create a forceful experience.  He collaborated with Quakers in Houston, Texas on the design of their new Meeting House, which included a familiar element of his work, a hole in the roof through which to experience the sky.

What is the relevance of such insights to the lasting values of faith; the relationship between the Moment and the Hour perhaps as Waldo Williams expressed.

 See page 2 of the September Calon for a report back from the lecture

For more details and full transcript see:

http://huwnant.wixsite.com/crynwyrpwllheli/darlith2017


 

2016 saw the first in a series of three lectures at The National Eisteddfod.

John Edward Southall (1855-1928)

Eisteddfod Quaker Lecture 2016

Gethin Evans, Aberystwyth meeting, presenting a talk on John Edward Southall,,“GALAR GWENT” QUAKER, PUBLISHER, & NATION-LOVER

National Eisteddfod 2016

At the Eisteddfod in Abergavenny, Gethin Evans, a member of Aberystwyth Meeting, gave a well attended lecture on John Edward Southall (1855-1928), the Newport based publisher and author, who became one of the most ardent defenders and champion of the Welsh language during his life.

Southall was born into a Quaker family in Leominster, and first took an active interest in Wales and her language when he was a pupil at the Quaker school for boys in York, Bootham. By 1880 he had established his business in Newport, Mon., and was to publish books in both Welsh and English, and notably bi-lingual books for schools.

His book “Wales and Her Language” published in 1892  provided, not only a historical overview, but sought to encourage, if not arouse, the Welsh to defend their language and encourage greater respect for it especially amongst English newcomers into Wales. He was highly unusual, compared to his fellow religionists, with respect to his interest in Wales and her language.

An avid believer in bi-lingual education, at a time when Welsh was largely ignored and denigrated within the educational system, his pen proved to be an efficient tool in the struggle for linguistic equality.

Southall also wrote in Welsh, and sought to reintroduce Quakerism to a Wales which had largely ignored it as a living spiritual experience.

Gethin’s lecture supplemented the contents of his book, published in 2014, “Benign Neglect: the Quakers and Wales c1860-1918” – a study of the relationship of London Yearly Meeting to Wales and Welsh issues.

The lecture was given in English during Yearly Meeting in 2017 at Warwick.

For a report on this see the article on page 3 “The Adopted Incomer” of Calon newsletter issue no.25 (September 2017)

 

Eisteddfod Genedlaethol 2016

Yn yr Eisteddfod yn y Fenni, traddododd Gethin Evans, aelod o Gwrdd Aberystwyth, ddarlith i gynulleidfa anrhydeddus, ar John Edward Southall (1855-1928), y cyhoeddwr ac awdur o  Gasnewydd, brofodd i fod yn un a amddiffynwyr a lladmeryddion mwyaf brwd dros yr iaith Gymraeg yn ystod ei fywyd.

Ganwyd Southall i deulu Crynwrol yn Llanllieni, a dechreuodd gymeryd diddordeb yng Nghymru a’i haiaith pan yn ddisgybl yn ysgol y Crynwyr i fechgyn yn Efrog, Bootham. Erbyn 1880 roedd wedi sefydlu ei fusnes yng Nghasnewydd, a bu iddo gyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg a Saesneg, ac yn  arbennig llyfrau dwyieithog i ysgolion.

Roedd ei lyfr “Wales and Her Language” gyhoeddwyd yn 1892, nid yn unig yn adolygiad hanesyddol, ond ceisiai annog diddordeb, os nad deffro y Cymry i amddiffyn eu hiaith a meithrin mwy o barch tuag ati yn enwedig ymysg mewnfudwyr Seisnig i Gymru. I’w gymharu a’i gyd-addolwyr roedd ei ddiddordeb yn yr iaith yn anarferol.

Credai yn gryf mewn addysg ddwyieithog, mewn cyfnod lle nad oedd parch na sylw i’w roi i’r Gymraeg o fewn y gyfundrefn addysg., profodd ei ysgrifennu yn arf miniog yn y frwydr dros gydraddoldeb ieithyddol.

Ysgrifennai Southall hefyd yn y Gymraeg, gan gesio ailgyflwyno Crynwriaeth i Gymru a’i hanwybyddodd fel profiad byw ysbrydol.

Ategai darlith Gethin  gynnwys ei lyfr, gyhoeddwyd yn 2014, “Benign Neglect: the Quakers and Wales c1860-1918” – astudiaeth o berthynas Cyfarfod Blynyddol Llundain a Chymru a materion Cymreig.

Os byw ac iach, gobeithir cyflwyno’r ddarlith yn Saesneg y flwyddyn nesaf yn ystod y Cyfarfod Blynyddol yn Warwick.

 

 


Details of next years’ lecture will be posted here.